- Cartref
- Amdanom ni
- Ymgyrch moroln
- Cymryd rhan
- Map rhyngweithiol
- Bywyd gwyllt
- Lleoedd i'w gweld
- Adnoddau
- Newyddion
- Digwyddiadaus
- Cysylltu â ni
Moroedd Rhagorol Cymru
Mae moroedd Cymru, lle mae dyfroedd deheuol cynnes yn cyfarfod cerhyntau llawn maetholion o’r gogledd, yn arbennig mewn llawer ffordd. Ynghudd o dan y don mae tirluniau llawn mor amrywiol â’r rhai a welir uwchben y don – gyda chlogwyni tanddwr, riffiau digysgod oddi ar y lan, mornentydd cysgodol llonydd, a rhaeadrau llanwol peryglus. Mae’r rhain yn creu ystod ryfeddol o gynefinoedd sy’n cynnal amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt.
A wyddoch chi fod ail bysgodyn mwyaf y byd, yr heulgi mawreddog, neu grwban môr mwyaf y byd, yn galw heibio moroedd Cymru? Ydych chi erioed wedi gweld pâl yn nythu neu deulu o ddolffiniaid chwareus? Mae arfordir Cymru’n cynnig ystod o gyfleoedd i chi fwynhau’r môr o gwmpas Cymru. Ewch i weld ein map rhyngweithiol i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt sydd i’w weld, neu edrychwch ar ein hawgrymiadau o leoedd i’w gweld o amgylch Cymru. Amser i Weithredu Mae ein moroedd a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddynt o dan bwysau cynyddol ac mae angen rheolaeth fwy effeithiol ar frys. Ym mis Tachwedd 2009, cyflwynwyd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir ac mae hon yn darparu cyfle gwych i wrthdroi’r sefyllfa hon. Fodd bynnag, mae angen eich cymorth arnom nawr i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol yng Nghymru. Cewch wybod mwy am ein hymgyrch morol neu sut y gallwch chi gymryd rhan.
Efallai y byddwn yn cofio’r ychydig o flynyddoedd nesaf fel y cyfnod pwysicaf mewn hanes o ran gwarchod moroedd Cymru, ond dyma’r amser i weithredu.






