'Working together for the future of our marine environment'

Cookies are required for multi-lingual functionality. Selecting a language means that you are allowing these cookies.

Campaign Website
Photography Competition
twitter facebook
  • Home
  • About Us
  • Marine Campaign
    • Marine and Coastal
      Access Act
    • Marine Protected Areas
    • Marine Licensing
    • Marine Planning
    • Marine Fisheries
  • Get Involved
  • Interactive Map
  • Wildlife
  • Places to go
  • Resources
    • Useful Links
  • News
  • Events
  • Contact Us
Newsletter Sign-up

Summer E-news

Thursday 19 July 2012 8:42

Our summer e-newsletter has recently been circulated.  If you would like to receive future copies, you can subscribe here.

Gwler y fersiwn Gymraeg isod.


Summer newsletter

 

Since our last newsletter, the Marine Officers have been busy engaging with the various marine developments in Wales, including numerous consultations, events and meetings.  We have also welcomed a new Marine Officer to the campaign; Gareth Cunningham, who is based at RSPB Cymru. 

We hope you find the following update useful, however, if there is anything else you think we should cover in future editions of the newsletter, please let us know.

 

Sites visit with Assembly Members

Over the spring and summer, the WEL Marine Officers have organised a series of site visits with Assembly Members (AMs) on the Environment and Sustainability Committee.  The visits to the Welsh coast provide the opportunity to discuss marine management issues and the importance of managing our marine environment sustainably.  Unfortunately several trips have been postponed due to bad weather, but those trips which have taken place have proved ideal opportunities to inspire AMs about the richness of Welsh seas.

 

Marine Conservation Zones

Welsh Governments first consultation on Marine Conservation Zones (MCZs) was released in mid-April and will run until 31st July.  The consultation presents 10 potential sites as options for further consideration as highly protected MCZs, on the basis that Welsh Government intends to designate no more than 3 or 4 sites in 2014. The consultation is the first of three, with further consultations planned for 2013.

  • For information on the consultation, the sites being considered and how to respond, please visit Welsh Governments website.
  • For information on the approaches of the WEL Marine Working Groups member organisations approaches, please click here.

Sustaining a Living Wales

Since the election in May last year, the Welsh Government has announced an ambitious program of work for the coming term.  This includes the proposed new framework for environmental management through the ‘Sustaining a Living Wales’ program. They also intend to create a new Environment Body for Wales, to be in place by April 2013, which will result in the merge of Environment Agency Wales, the Countryside Council for Wales and the Forestry Commission.  Furthermore, Welsh Government is currently consulting on proposals for a Sustainable Development Bill and intends to introduce a new Planning Bill.  We have been working hard both through the WEL network and our member organisations to ensure that the marine environment is fully considered and integrated into these emerging programs, whilst also reminding Welsh Government of their ongoing commitments under the Marine Act to safeguard Welsh seas for the future.

 

Update on the Implementation of the Marine Act in Wales

Fisheries News

There has been considerable coverage of European fisheries management in the media over the last year, focusing on the reform of the Common Fisheries Policy.  It was recently announced that EU fisheries Ministers have reached an agreement on the general principles of regionalisation which will enable more flexible management, a progressive ban on discards and implementing maximum sustainable yield for all species no later than 2020.  Whilst these developments suggest a step in the right direction towards sustainable marine fisheries management, the details of implementation, particularly for fisheries in Wales, will be important.

The Assembly Environment and Sustainability Committee has undertaken an enquiry on the Common Fisheries Policy reform in relation to Wales.  WEL continue to engage in the fisheries stakeholder groups, with representatives on the Wales Marine Fisheries Advisory Group and the 3 Inshore Fisheries Groups. The groups are currently undertaking a review of current legislation, with Welsh Government using some of its new powers granted under the Marine and Coastal Access Act to ensure that historic differences between North and South Wales fisheries bylaws are addressed.

Marine Protected Areas

Throughout the campaign, WEL have been calling for the improved management of our existing Marine Protected Areas.  Covering over 36% of Welsh territorial waters, if managed effectively, these sites could significantly contribute to the improved protection of our marine environment.  The Countryside Council for Wales have been undertaking a review of current management of MPAs, and have recently sent their recommendations to Welsh Government.  The recommendations are likely to be published later this year as part of the Wales MPA Management Strategy.

Marine Planning

The Marine Act provides the opportunity for Welsh Ministers to introduce marine plans for the Welsh inshore and offshore areas. For the first time, this will enable strategic consideration of how we use the marine environment in Wales.  Whilst there is commitment to marine planning by Welsh Ministers, there have been limited public developments over the last six months and WEL are calling for progress to be made.  Internally, Welsh Government Ministers and key officials are in discussion as to the level of detail that Welsh marine plans may contain.  WEL are calling for plans that ensure sustainable development and give direction to stakeholders. We also want there to be sufficient resources to take forward this new and important area of work.

In England, the Marine Management Organisation has said it intends to announce the next marine plan areas around the English coast this month.  WEL has advocated the need to include a cross-border area in the next round of plan areas. Finally, in Europe, the Commission is considering options to introduce legislation on marine planning and will publically consult later in the year on their proposals.

Upcoming dates

18th July: Consultation on proposals for a Sustainable Development Bill closes

31st July: Consultation on Marine Conservation Zones in Wales closes

For up to date developments in the campaign and marine management in Wales, follow us on Twitter and Facebook, or visit our website.

If you no longer wish to receive this newsletter, please email Beth Henshall bhenshall@wtwales.org

-------------------------------------------------------------------------------------------------

Cylchlythyr yr haf

 

Ers ein cylchlythyr diwethaf mae’r Swyddogion Morol wedi bod yn brysur yn ymwneud â’r gwahanol ddatblygiadau morol yng Nghymru, gan gynnwys nifer fawr o ymgynghoriadau, digwyddiadau a chyfarfodydd. Rydym hefyd wedi croesawu Swyddog Morol newydd i’r ymgyrch, sef Gareth Cunningham, sy’n gweithio yn RSPB Cymru. 

Gobeithio y bydd y diweddariad canlynol yn ddefnyddiol i chi. Fodd bynnag, os oes unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl y dylem roi sylw iddo yn rhifynnau’r cylchlythyr yn y dyfodol, rhowch wybod i ni.

 

Ymweliadau â safleoedd gydag Aelodau Cynulliad

Dros y gwanwyn a’r haf, mae Swyddogion Morol y Cyswllt wedi trefnu cyfres o ymweliadau â safleoedd gyda’r Aelodau Cynulliad (ACau) sydd ar y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae’r ymweliadau â glannau Cymru’n rhoi cyfle i drafod materion sy’n ymwneud â rheoli morol a phwysigrwydd rheoli ein hamgylchedd morol mewn ffordd gynaliadwy. Yn anffodus mae nifer o deithiau wedi cael eu gohirio oherwydd tywydd drwg, ond mae’r teithiau hynny sydd wedi cael eu cynnal wedi profi’n gyfleoedd delfrydol i ysbrydoli ACau am gyfoeth moroedd Cymru.

 

Parthau Cadwraeth Morol

Cyhoeddwyd ymgynghoriad cyntaf Llywodraeth Cymru ar Barthau Cadwraeth Morol yng nghanol mis Ebrill a bydd yn rhedeg hyd 31ain Gorffennaf. Mae’r ymgynghoriad yn cyflwyno 10 safle posibl fel opsiynau i’w hystyried ymhellach fel Parthau Cadwraeth Morol gwarchodedig iawn, ar y ddealltwriaeth bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu dynodi 3 neu 4 safle’n unig yn 2014. Yr ymgynghoriad hwn yw’r cyntaf o dri, gyda bwriad i gynnal rhagor yn 2013.

  • I gael gwybodaeth am yr ymgynghoriad, y safleoedd sy’n cael eu hystyried a sut i ymateb, ewch i wefan  Llywodraeth Cymru.
  • I gael gwybodaeth am ymagweddau’r sefydliadau sy’n aelodau o Weithgor Morol y Cyswllt, cliciwch yma 
     

Cynnal Cymru Fyw

Ers yr etholiad ym mis Mai y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen waith uchelgeisiol ar gyfer y tymor i ddod. Mae hyn yn cynnwys y fframwaith newydd arfaethedig ar gyfer rheoli amgylcheddol trwy’r rhaglen ‘Cynnal Cymru Fyw’. Maent hefyd yn bwriadu creu Corff Amgylcheddol newydd i Gymru, i fod yn weithredol erbyn mis Ebrill 2013, a fydd yn arwain at uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy ac yn bwriadu cyflwyno Bil Cynllunio newydd. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed trwy rwydwaith y Cyswllt a’r sefydliadau sy’n aelodau i sicrhau bod yr amgylchedd morol yn cael ei ystyried yn llawn a’i integreiddio i’r rhaglenni hyn sy’n dod i’r amlwg, ac ar yr un pryd atgoffa Llywodraeth Cymru o’i hymrwymiad parhaus o dan Ddeddf y Môr i ddiogelu moroedd Cymru ar gyfer y dyfodol.

 

Diweddariad ar weithredu Deddf y Môr yng Nghymru

Newyddion am bysgodfeydd

Cafwyd cryn dipyn o sylw i reoli pysgodfeydd Ewropeaidd yn y cyfryngau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ganolbwyntio ar ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod Gweinidogion pysgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i gytundeb ar egwyddorion cyffredinol datganoli cyfrifoldeb i'r rhanbarthau a fydd yn ei gwneud yn bosibl cael rheoli mwy hyblyg, gwaharddiad cynyddol ar bysgod taflu yn ôl, a gweithredu cynnyrch cynaliadwy mwyaf ar gyfer pob rhywogaeth yn 2020 fan hwyraf. Er bod y datblygiadau hyn yn awgrymu cam i’r cyfeiriad iawn o ran rheoli pysgodfeydd morol mewn ffordd gynaliadwy, bydd manylion y gweithredu, yn arbennig ar gyfer pysgodfeydd yng Nghymru, yn bwysig.

 

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad wedi cynnal ymchwiliad i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin mewn perthynas â Chymru. Mae’r Cyswllt yn dal i gymryd rhan yn y grwpiau rhanddeiliaid pysgodfeydd, ac mae ganddo gynrychiolwyr ar Grŵp Ymgynghorol Pysgodfeydd y Môr Cymru a’r 3 Grŵp Pysgodfeydd y Glannau. Ar hyn o bryd mae’r grwpiau’n gwneud adolygiad o’r ddeddfwriaeth bresennol, gyda Llywodraeth Cymru’n defnyddio rhai o’i phwerau newydd a roddwyd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir i sicrhau yr eir i’r afael â gwahaniaethau hanesyddol rhwng is-ddeddfau pysgodfeydd y Gogledd a’r De.

Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Drwy gydol yr ymgyrch, mae’r Cyswllt wedi bod yn galw am reoli ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig yn well. Mae’r safleoedd hyn yn 36% o ddyfroedd tiriogaethol Cymru, a phe caent eu rheoli’n effeithiol, gallent gyfrannu’n sylweddol at warchod ein hamgylchedd morol yn well. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi bod yn gwneud adolygiad o’r ffordd y rheolir Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar hyn o bryd, ac yn ddiweddar mae wedi anfon ei argymhellion at Lywodraeth Cymru. Mae’r argymhellion yn debyg o gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach eleni fel rhan o Strategaeth Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.

Cynllunio Morol

Mae Deddf y Môr yn rhoi’r cyfle i Weinidogion Cymru gyflwyno cynlluniau morol ar gyfer dyfroedd glannau a dyfroedd môr mawr Cymru. Am y tro cyntaf, bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl ystyried yn strategol y ffordd yr ydym yn defnyddio’r amgylchedd morol yng Nghymru. Er bod yna ymrwymiad i gynllunio morol gan Weinidogion Cymru, ychydig iawn o ddatblygiadau cyhoeddus sydd wedi bod dros y chwe mis diwethaf ac mae’r Cyswllt yn galw am i gynnydd gael ei wneud. Yn fewnol, mae Gweinidogion a swyddogion allweddol Llywodraeth Cymru wrthi’n trafod faint o fanylion fydd yng nghynlluniau morol Cymru. Mae’r Cyswllt yn galw am gynlluniau sy’n sicrhau datblygu cynaliadwy ac yn rhoi cyfeiriad i randdeiliaid. Rydym hefyd eisiau bod yna ddigon o adnoddau i fwrw ymlaen â’r maes gwaith newydd a phwysig hwn.

Yn Lloegr, mae’r Marine Management Organisation wedi dweud ei fod yn bwriadu cyhoeddi’r ardaloedd cynlluniau morol nesaf o gwmpas glannau Lloegr y mis hwn. Mae’r Cyswllt wedi dadlau bod angen cynnwys ardal drawsffiniol yn y cylch nesaf o ardaloedd cynlluniau. Yn olaf, yn Ewrop, mae’r Comisiwn yn ystyried opsiynau i gyflwyno deddfwriaeth ar gynllunio morol a bydd yn ymgynghori â’r cyhoedd yn ddiweddarach eleni ar ei gynigion.

Dyddiadau ar ddod

18fed Gorffennaf: Yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy’n cau

31ain Gorffennaf: Yr ymgynghoriad ar Barthau Cadwraeth Morol yng Nghymru’n cau

I gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn yr ymgyrch a maes rheoli morol yng Nghymru, gallwch ein dilyn ar Twitter a Facebook, neu fynd i’n gwefan.

Os nad ydych chi eisiau cael y cylchlythyr hwn mwyach, anfonwch neges e-bost at Beth Henshall bhenshall@wtwales.org

  • Home |
  • About Us |
  • Marine Campaign |
  • Marine Species |
  • Places to go |
  • News |
  • Events |
  • Resources |
  • Get Involved |
  • Contact Us

This campaign is funded by:

© 2011 Wales Environment Link Designed & Hosted by GloverSure Ltd.